
Podlediad Co' Bach Podcast
1) Ddoe yn Ôl (1982)
T Glynne Davies yn holi rhai o'r Cymry ddilynodd y Palmant Aur I Lundain i werthu llaeth.
2) Dan Bawen yr Arth (1981)
Gwyn Llewelyn ac eraill yn cofio ugain mlynedd ers adeiladu Mur Berlin.
3) Dafi John Abernant (1986)
Teulu a ffrindiau yn cofio'r llenor D.J. Williams
4) Pwy Oedd Dewi Sant? (1984)
Annest Wiliam yn holi'r cwestiwn Pwy Oedd Dewi Sant? Cyfraniadau gan yr hanesydd Syr Glanmor Williams, y Tra Pharchedig Lawrence Bowen, Mari Evans a rhai o blant Aelwyd Aberafan.
5) Pentrefi Coll (1994)
Richard Rees yn edrych ar hanes boddi pentref Ynysyfelin sydd bellach o dan ddyfroedd Cronfa Ddŵr Llwynonn
6) Mynd Adre' (1988)
Ronnie Williams yn mynd a ni adre' i Gefneithin nôl yn 1988.
7) Ym Mhendraw’r Byd (1990)
Bryn Thomas yn holi’r perchennog Siop Lyfrau a’r fenyw anhygoel Beti Rhys am ei theithiau o gwmpas y Byd
8) Barn y Bobol (1964)
Y Parchedig Meic Parri yn cadeirio panel yn nhref Slough nôl yn 1964 a’r panel yw Hafina Clwyd, Yr Athro Emrys Jones a’r Parch Alwyn Charles.
9) Gwin y Gorffennol (1976)
Meredydd Evans yn cyflwyno dwy sgwrs, un rhwng Tom Evans a Mrs Elizabeth Edwards a arferai weithio yng ngegin Plas yr Hafod yng Nghwm Ystwyth a sgwrs arall lle mae Harri Parri yn holi John Edwards, ...Show More
10) Siop y Crydd (Llanfyllin 1981)
Lynn Davies sydd yn teithio i Lanfyllin ac yn cwrdd a’r trigolion i gael hanes, hiwmor a straeon ysbryd yr ardal.